Cymru

Dechreuodd y Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru yn 2009 fel rhaglen beilot a ariannwyd gan Sgiliau Sylfaenol Cymru drwy Lywodraeth Cymru. Roedd ar gael i bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Sut mae'r rhaglen yn gweithio yng Nghymru
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar wella rhagolwg addysgol plant rhwng 7 ac 13 oed mewn teuluoedd maethu, drwy ddarparu parsel o lyfrau, gweithgareddau mathemateg ac eitemau ysgrifennu iddynt unwaith y mis am chwe mis.
Ym mis Chwefror 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arian grant am dair mlynedd i'r Clwb Blwch Llythyrau, sy'n golygu y bydd plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael parseli hyd at ac yn cynnwys 2014.
Nod parseli'r Clwb Blwch Llythyrau yw darparu deunydd Cymraeg a Saesneg ac maent yn gwbl ddwyieithog, gan gynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg. Mae Rob Lewis a Nicola Davies yn ddau awdur sydd wedi cael eu cynnwys yn y parseli.
Creu partneriaethau lleol
Nod y Clwb Blwch Llythyrau yw gweithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru i gynnig ystod o weithgareddau er mwyn cael pobl ifanc yng Nghymru i ddarllen a rhoi syniadau i awdurdodau lleol ar gyfer cydweithio â phlant y Clwb Blwch Llythyrau o bosibl, gan gynnwys ymweliadau gan awduron, digwyddiadau mewn llyfrgelloedd a chynnwys plant mewn gwyliau. Mae arian ar gael ar hyn o bryd i Llenyddiaeth Cymru wneud y gwaith hwn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
Mae Freda Lewis, Cyfarwyddwraig Rhwydwaith Maethu Cymru, wedi cymeradwyo'r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru. Fe aeth i'r diwrnod gwybodaeth a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Mai 2011 a dywedodd ei bod wedi gweld plant yn cael budd o'r rhaglen. Mae hi o'r farn bod y Clwb Blwch Llythyrau yn ymyriad pwysig.
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, hefyd yn cefnogi'r Clwb Blwch Llythyrau. Mae plant sy'n derbyn gofal yn un o'i brif flaenoriaethau a hoffai gyrraedd rhai o'r plant hyn drwy'r rhaglen.
Cynhelir diwrnodau gwybodaeth ar gyfer Cydlynwyr Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (LACE) yn flynyddol ac mae tîm y Clwb Blwch Llythyrau yn parhau i roi cymorth ac arweiniad i staff ym mhob awdurdod lleol sy'n cymryd rhan.
Adroddiad Gwerthuso Blwch Llythyrau yng Nghymru 2009-2011
Adroddiad sy'n cynnwys data a gasglwyd yn ystod peilot 2009-2010 ynghyd a data ychwanegol a gasglwyd yn 2011 yn dangos effaith menter Blwch Llythrau yng Nghymru.
Awduron Rose Griffiths a Dr Chris Comber, Ysgol Addysg, Prifysgol Caerlŷr.