This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Cymru

Cymru

Dechreuodd y Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru yn 2009 fel rhaglen beilot a ariannwyd gan Sgiliau Sylfaenol Cymru drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd ar gael i bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

Read in English

 

 

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar wella rhagolwg addysgol plant rhwng 7 ac 13 oed mewn teuluoedd maethu, drwy ddarparu parsel dwyieithog o lyfrau, gweithgareddau mathemateg ac eitemau ysgrifennu iddynt unwaith y mis am chwe mis.

 

Welsh Govt New Logo Jun 2011

Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto'n ariannu'r Clwb Blwch Llythyrau ar gyfer 2011 ac mae 19 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan gyda thros 800 o blant wedi'u cofrestru. Mae'r Blwch Llythyrau Gwyrdd, y parsel a luniwyd i blant ym Mlwyddyn 7/8, hefyd ar gael yng Nghymru eleni.

 

Nod parseli'r Clwb Blwch Llythyrau yw darparu deunydd Cymraeg a Saesneg ac maent yn gwbl ddwyieithog, gan gynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg. Mae Rob Lewis a Nicola Davies yn ddau awdur a gafodd eu cynnwys yn y parseli eleni. Caiff parseli eu hanfon eleni rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr.

 

Bydd y Clwb Blwch Llythyrau yn gweithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru i gynnig ystod o weithgareddau i gael pobl ifanc yng Nghymru i ddarllen a rhoi syniadau i awdurdodau lleol ar gyfer cydweithio â phlant y Clwb Blwch Llythyrau o bosibl, gan gynnwys ymweliadau gan awduron, digwyddiadau mewn llyfrgelloedd a chynnwys plant mewn gwyliau. Mae arian ar gael ar hyn o bryd i Llenyddiaeth Cymru wneud y gwaith hwn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.

 

Mae Freda Lewis, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru wedi cymeradwyo'r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru. Aeth i'r diwrnod gwybodaeth a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Mai 2011 a dywedodd ei bod wedi gweld plant yn cael budd o'r rhaglen a'i bod yn ei hystyried yn ymyriad pwysig.

 

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, hefyd yn cefnogi'r Clwb Blwch Llythyrau. Mae plant sy'n derbyn gofal yn un o'i brif flaenoriaethau a hoffai gyrraedd rhai o'r plant hyn drwy'r rhaglen. Rydym wedi bod mewn cyswllt â swyddfa'r Comisiynydd i ystyried y posibilrwydd o gynnwys eitem ganddo ym mharseli 2011.

 

Cynhaliwyd diwrnodau gwybodaeth ar gyfer Cydlynwyr Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (LACE) yng Nghaerdydd a Wrecsam cyn i'r parseli cyntaf gael eu hanfon ym mis Gorffennaf 2011 ac mae tîm y Clwb Blwch Llythyrau yn parhau i roi cymorth ac arweiniad i staff ymhob awdurdod lleol sy'n cymryd rhan.

 

Find out the latest news from the Letterbox Club in Wales